Cefndir

Mae Comisiynydd Y Gymraeg yn croesawu'r cyfle i roi sylw ar yr ymchwiliad. Prif nod Comisiynydd y Gymraeg wrth arfer ei swyddogaethau yw hybu a hwyluso defnyddio'r Gymraeg. Wrth wneud hynny bydd y Comisiynydd yn ceisio cynyddu defnydd o’r Gymraeg yng nghyswllt darparu gwasanaethau, a thrwy gyfleoedd eraill. Yn ogystal, bydd 'I Comisiynydd yn rhoi sylw i statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru a'r dyletswyddau statudol i ddefnyddio'r Gymraeg drwy osod safonau.

Mae dwy egwyddor yn sail i waith y Comisiynydd sef

-        na ddylid trio y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru Be

-        dylai personau yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Un o amcanion strategol y Comisiynydd yw dylanwadu at yr ystyriaeth 8 roddir i’r Gymraeg mewn datblygiadau polisi. Darperir sylwadau yn unol a'r cylch gorchwyl hwn gan weithredu fel eiriolwr annibynnol ar ran siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae'r ymagwedd hon yn cael ei harddel er mwyn osgoi unrhyw gyfaddawd posibl ar swyddogaethau'r Comisiynydd ym maes rheoleiddio, a phe byddai'r Comisiynydd yn dymuno adolygu'n ffurfiol berfformiad cyrff unigol yn unol. darpariaethau'r Mesur.

Yn unol â hynny, cynigir isod sylwadau mewn perthnasol chylch gorchwyl yr ymchwiliad.

Rôl a chyfraniad S4C

Mae darlledu yn chwarae than hollbwysig mewn hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol ar draws y byd ac yng Nghymru. Fel yr unig ddarlledwr teledu cyhoeddus cyfrwng Cymraeg ym Mhrydain a'r unig sianel! deledu Gymraeg yn y byd, mae gan S4C rôl unigryw yn y gwaith o sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu.[1]

Mae effaith y Sianel yn amlochrog ac amrywiol Mae S4C yn codi statws a chynyddu defnydd y Gymraeg yn rhinwedd ei rôl fel cyflogwr sy'n cefnogi cwmnïau cynhyrchu annibynnol. Mae S4C hefyd yn cyfrannu at dyfu economi Cymru drwy fuddsoddi a chreu swyddi yn yr ardaloedd lle mae'r Gymraeg af ei chryfaf.

Mae'r Gymraeg yn gwbl ganolog i waith S4C. Dywed S4C ei hun: 'Mae'r Gymraeg wrth wraidd cylch gwaith a bodolaeth S4C... Mae S4C yn rhan hanfodol o’r ymdrech i greu amgylchedd lle mae'r iaith yn ffynnu, yn fywiog ac yn fyw, amgylchedd lle mae gan bobl y dewis o fwynhau a thrafod adloniant, newyddion, chwaraeon a'r celfyddydau drwy gyfrwng y Gymraeg - yn y gwaith a gartref.[2]

Er hyn, nid yw cylch gorchwyl statudol presennol S4C, fel y'i gosodir yn Neddf Cyfathrebiadau 2003 ('Communications Act 2003'), yn mynegi'n glir rôl y sianel wrth gynnal, cefnogi a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Mae adolygiad o'r sianel yn cynnig cyfle gwerthfawr i fanylu ac adeiladu ar y gylch gorchwyl presennol, gan danlinellu cyfraniad canolog S4C at ffyniant yr iaith Gymraeg - a statws canolog y Gymraeg yn y gwasanaethau a ddarperir gan S4C.

Dylid ystyried addasu cylch gorchwyl presennol S4C er mwyn iddo fynegi'n glir cyfraniad hollbwysig S4C at ffyniant yr iaith Gymraeg; a thanlinellu bod y Gymraeg a'i defnyddwyr wrth galon y gwasanaeth a ddarperir gan y sianel.

Ariannu S4C

Ers 2011 dioddefodd S4C ergydion ariannol difrifol. Cafodd cyllideb y sianel doriad sy'n gyfwerth 0 36% mewn termau real dros y pedair blynedd ddiwethaf. Rhwng 2011 a 2015  gwnaethpwyd arbedion effeithlonrwydd sy'n gyfwerth A £12.5 mln.[3] Mae gorbenion y sianel pellach yn gyfwerth â thua 4% y gwariant. Gellir dadlau bod y toriadau ariannol bellach i'w gweld yn effeithio ar arlwy y sianel. Er enghraifft, yn 2010 cyflwynwyd gwasanaeth manylder uwch ond penderfynwyd ei hepgor erbyn diwedd 2012 ar mwyn gwneud arbedion.[4] Ailgyflwynwyd y gwasanaeth yn 2016 ond bydd mewn perygl eto os daw toriadau pellach.[5] Mae nifer yr ailddarllediadau ar S4C yn dystiolaeth bellach o'r her ariannol y mae’r sianel yn ei wynebu. Erbyn hyn, mae 57 y cant o gynnwys S4C yn ailddarllediadau - o gymharu â 5 o gynnwys y BBC. O ystyried hyn, nodwn gyda chryn bryder fwriad y Llywodraeth i gyflwyno toriad ariannol pellach cyn cynnal adolygiad o S4C.[6]

O ystyried maint anghymesur y toriadau y gosodwyd ar S4C hyd yn hyn, yn ogystal â maint yr arbedion effeithiolrwydd a wnaethpwyd gan y sianel, byddai unrhyw doriad pellach yn afresymol ac yn peryglu dyfodol y sianel a'i gallu i barhau i gefnogi a hyrwyddo'r iaith Gymraeg. Galwn ar 'I Pwyllgor i bwyso am atal unrhyw doriadau pellach i gyllideb S4C.

Ar yr un pryd, mae ar S4C angen cyllideb syn addas ef mwyn caniatáu ar gyfer diwallu anghenion amrywiol cynulleidfaoedd cyfrwng Cymraeg heddiw ac yn y dyfodol - a hyn ar sail yr uchelgais a rhagamcaniad y bydd nifer o siaradwyr y Gymraeg yn cynyddu dros y blynyddoedd nesaf. Mae'n allweddol bod gan S4C y gallu i gefnogi a chyfrannu at y twf hwnnw. Dylid anelu at dwf digonol yng nghyllideb y sianel ef mwyn caniatáu iddi gyflawni’r nod hwn.

Yn ôl S4C ac eraill, dylai'r gyllideb fod yn ddigonol ar mwyn caniatáu ar gyfer:

-        lleihau nifer yr oriau o raglennu wedi eu hailadrodd a chynyddu'r canran o gynyrchiadau gwreiddiol;

-        Datblygu ei chynnig rhaglenni plant a phobl ifanc;

-        Gwreiddio ei chynnig gwasanaeth manylder uwch, gyda sicrwydd ariannol na fydd rhaid hepgor y gwasanaeth honno eto;

-        Pamau i ddatblygu ei phresenoldeb ar draws platfformau amrywiol, a datblygu ei chynnig i wahanol grwpiau cymdeithasol ac oedran;

-        Gwena hygyrchedd ei chynnwys, gan gynnwys ehangu ei chynnig o is-deitlau Cymraeg.

Dylid arfogi S4C yn ariannol i dyfu a datblygu ei darpariaeth ar gyfer cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith y dyfodol. Gofynnwn i’r Pwyllgor fynegi cefnogaeth i’r weledigaeth honno.

Yn ystod yr adolygiad o Siarter Frenhinol y BBC y flynedd bu cryn dipyn o sylw cyhoeddus i ffigyrau gwylio’r gwasanaethau a ddarperir gan y BBC i’r gynulleidfa Cymraeg ef hiaith. Mae hynny wedi ei godi hefyd mewn perthynas â darpariaeth S4C. Ni fyddai fformiwla ariannu ar gyfer S4C syn rhoi pwys af niferoedd gwylio ac sy'n cymharu niferoedd gwylio S4C â darlledwyr eraill yn fformiwla addas. Mae cyd-destun S4C yn unigryw yng Nghymru yn yr ystyr ei fod yn ddarlledwr rhaglenni! mewn iaith leiafrifol ac felly nid yw cymharu niferoedd ef gwylwyr gyda niferoedd gwylio darlledwyr eraill yn briodol. Dylid penderfynu’r gyllideb ar sail teilyngodd S4C ef hun, a'i chyfraniad unigryw at fywyd diwylliannol, cymdeitha90l ac economaidd yng Nghymru.

Gofynnwn i’r Pwyllgor bwysleisio y dylai fformiwla ariannu S4C adlewyrchu ei chyfraniad unigryw at fywyd diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru.

Pa bynnag drefniadau cyllido gaiff eu cytuno ar gyfer S4C yn y dyfodol mae'n hanfodol bod y drefn newydd honno'n cynnig sicrwydd ariannol hirdymor fydd yn caniatáu ar gyfer cynllunio pwrpasol dros amser.

Gofynnwn i’r Pwyllgor bwyso am drefniant ariannu S4C sy’n cynnig sicrwydd ariannol hirdymor er mwyn galluogi'r sianel i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

Llywodraethiant ac atebolrwydd S4C, a pherthynas â'r BBC

Nid oes gennym ymateb manwl i'r gynnig i’r cwestiwn yma, ond yn amlwg dylai fframwaith rheoleiddio S4C ddiogelu annibyniaeth olygyddol a gweithredol y sianel, yn yr hirdymor.

Gwelededd S4C

Gwelwyd yn ddiweddar newidiadau i batrymau gwylio a gofynion y gynulleidfa sydd wedi trawsnewid y tirlun darlledu yn y Deymas Gyfunol. Mae'r newidiadau hyn yn cynnig cyfleodd i ddarlledwyr; ond hefyd yn gosod heriau cynyddol.

Mae'n amlwg bod S4C yn ceisio manteisio ar y cyfleodd trwy ehangu ai chyrhaeddiad ar lein ac ar draws platfformau amrywiol. Cyfrannodd lansiad S4C ar BBC iPlayer at dwf trawiadol yn nifer porwyr unigoI wythnosol cynnwys cyfrwng Cymraeg. Bellach gellir cyrchu cynnwys S4C af blatfformau megis Sky, Freesat, Virgin Media a YouVlew;[7] a thrwy apiau ar ddyfeisiau iOS ac Android. Mae'r datblygiadau hyn yn ddifyr ac i'w croesawu.

Mae angen buddsoddi er mwyn arloesi. Yn ôl Ofcom, gallasai'r newidiadau i’r dechnoleg ac ymddygiad defnyddwyr olygu mwy o straen ar gyllidebau darlledwyr cyhoeddus yn y blynyddoedd i ddod.[8] Os felly, gellir dadlau bod y toriadau dros y blynyddoedd diwethaf i gyllideb S4C yn gosod y sianel mewn sefyllfa heriol a bregus.

Er y newidiadau diweddar mewn patrymau gwylio, mae defnydd y cyfryngau traddodiadol yn parhau'n gryf. Ym mam S4C, byddai symud gwasanaeth S4C yn gyfan gwbI i blatfformau digidol yn golygu colled o 60-65 y cant o wylwyr.[9] Mae'n allweddol felly i S4C allu parhau i feithrin a thyfu ei gwasanaeth teledu traddodiadol tra hefyd yn datblygu ei phresenoldeb ar blatfformau newydd.

Gofynnwn i’r Pwyllgor gydnabod ei bod yn hanfodol bod gan S4C gyllideb ddigonol ar gyfer arloesi a moderneiddio eu gwasanaeth digidol, ac i ddatblygu ei gwasanaeth gwylio traddodiadol, mewn ffordd sy'n hwyluso mynediad cynulleidfaoedd amrywiol at gynnwys cyfrwng Cymraeg safonol.

Hyderaf bydd y sylwadau hyn o gymorth i’r pwyllgor wrth gynnal ei ymchwiliad i ddyfodol S4C.

Yr eiddoch yn gywir,

Meri Huws
Comisiynydd y Gymraeg



[1] Llywodraeth Cymru, laith fyw: iaith byw Strategaeth y Gymraeg 2012-17 (2012), tt. 47-48.

[2] S4C, S4C: Edrych I’r DyfodoI (2015). t 10 [http://www.s4c.cymru/media/media_assets/s4c-edrych-ir-dyfodol.pdf]

[3] S4C, Adroddiad Blynyddol 2014/15 (2015), tt. 54-55 [http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-

2015.pdf]

[4] Sefydliad Materion Cymreig, IWA Wales Media Audit 2015 (2015), t. 15 [http://www.clickonwales.org/wp-content/uploads/IWA_MediaAudit_v3.pdf]

[5] Gweler tystiolaeth Huw Jones ac Ian Jones (S4C) i'r Pwyllgor Materion Cymreig, 30 Ionawr 2017:

[http://www.parliament.uk/Business/Committees/Committees-a-z/commons-select/Welsh-affairs-committee/news-parliament-2015/s4c-review-one-off/]

[6] 18 Ionawr 2016 awgrymodd Gweinidog Matthew Hancock fydd S4C yn derbyn £6.058mln yn y flwyddyn ariannol nesaf (2017/18).

Byddai hyn yn gyfateb â doriad o bron £0.7mln I gyllideb S4C. 9 Chwefror 2017 haeriodd David Hanson AS fod yn unol â rhagamcaniad presennol, bydd S4C yn derbyn toriad o 10 y cant erbyn 2021.

[7] S4C, Adroddiad Blynyddol 2014/15 (2015), t. 6 [http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2015.pdf]

[8] Ofcom, Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn oes y rhyngrwyd (2015) [https://www.ofcom.org.uk/__data/assets/pdf_file/0026/46295/psb_welsh.pdf].

[9] Gweler tystiolaeth Huw Jones ac Ian Jones (S4C) i'r Pwyllgor Materion Cymreig, 30 Ionawr 2017: [http://www.parliament.uk/business/committees/committees-a-z/commons-select/welsh-affairs-committee/news-parliament-2015/s4c-review-one-off/]